Cyrraedd yma a Theithio o Gwmpas

Mae Eryri Mynyddoedd a Môr dim ond ychydig oriau i ffwrdd o'r rhan fwyaf o ganolfannau poblog y DU, gyda chysylltiadau ffordd, rheilffordd a bws ardderchog. Mae oedi yn y meysydd awyr, amserau hedfan cyn cŵn caer a'r agwedd gwasgu pawb i mewn wedi pylu teithio rhyngwladol. Nid oes pryderon tebyg yma - mae Eryri mor agos byddwch yn cyrraedd cyn i chi wybod. Ewch i wefan traffig.cymru i weld beth sy'n digwydd ar ein ffyrdd.

Trên

Mae gwasanaethau trên uniongyrchol yn rhedeg i'r cyrchfannau arfordirol poblogaidd yng Ngogledd Cymru o'r rhan fwyaf o Brydain, gyda chysylltiadau tir mawr i Rheilffordd Dyffryn Conwy sy'n rhedeg drwy Barc Cenedlaethol Eryri i  Betws y Coed ac ymlaen i Flaenau Ffestiniog. Mae gwasanaethau o Ganolbarth Lloegr drwy’r Amwythig a Machynlleth yn cysylltu gyda Rheilffordd Cambrian ar gyfer gorsafoedd i Bwllheli.

National Rail 
03457 48 49 50

Trafnidiaeth Cymru
0333 3211 202

Trainline

Trenau Bach Arbennig Cymru
Profwch brydferthwch cefn gwlad Cymru ar reilffyrdd bychain sydd mor angerddol wrth sicrhau croeso cynnes a phrofiad arbennig. Teithiwch yn hamddenol wrth iddynt eich tywys ar daith fach ymlaciol. Perffaith!

Cledrau Cymru
Hyrwyddo twristiaeth drwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru. Annog anturiaethau diogel, cynaliadwy, a golygfaol.

Car

Ceir mynediad cyflym uniongyrchol o Ogledd Orllewin Lloegr ar hyd yr M56 a'r A55. Mae cysylltiadau traffordd gyda Chanolbarth Lloegr hefyd yn dda ac mae’r un ffyrdd - yr M6, M5 a'r M1 - hefyd yn rhoi Gogledd Cymru o fewn cyrraedd hawdd i Dde Lloegr. Map pwyntiau gwefru ceir trydan.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno terfyn cyflymder rhagosodedig o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig ledled Cymru. Fel arfer, mae ffyrdd cyfyngedig wedi'u lleoli mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig lle mae llawer o bobl. Yn aml mae ganddynt oleuadau stryd arnynt, heb eu gosod yn fwy na 200 llath ar wahân. Cadwch lygad am yr arwyddion terfyn cyflymder wrth deithio yn yr ardal.

Môr

Mae Irish Ferries a Stena Line yn gweithredu gwasanaethau cyson a chyflym i Gaergybi o Ddulyn a Dun Laoghaire. Ar gyfer de Eryri mae gwasanaethau fferi sy’n mynd i Abergwaun a Doc Penfro yn ddewis defnyddiol arall.

Irish Ferries
08717 300 400

Stena Line
08447 707 070

Awyr

Mae trosglwyddiadau o byrth rhyngwladol Manceinion, Lerpwl a Birmingham yn cymryd llai na dwy awr.

Maes Awyr Manceinion
08712 710711

Maes Awyr Lerpwl John Lennon
08715 218484

Maes AwyrBirmingham
0871 2220072

Maes Awyr Caernarfon
01286 830800
 

AC AR ÔL CYRRAEDD...

Meysydd Parcio Cyngor Gwynedd 
Mae'n bosib talu am barcio drwy ddefnyddio ap PayByPhone yn holl feysydd parcio Cyngor Gwynedd. Mae'r ap PayByPhone ar gael i'w lawrlwytho o'r App Store neu Google Play Store. Mae'r ap yn hawdd i'w ddefnyddio, ac yn rhoi dewis i chi ymestyn eich sesiwn parcio o bell. Gallwch hefyd ddod o hyd i feysydd parcio cyfagos drwy'r ap, a pinio eich lleoliad er mwyn eich helpu i ddod o hyd i'r car yn nes ymlaen. Mae'n bosib talu am barcio gydag arian parod hefyd. 

Meysydd Parcio Parc Cenedlaethol Eryri
App Parcio Parc Cenedlaethol Eryri
Meysydd Parcio Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Llwybrau Cerdded i'r Wyddfa a Gwasanaeth Bws Sherpa

Mae cynllunio eich taith a parcio i gerdded Yr Wyddfa yn bwysig iawn. Gyda dros hanner miliwn o bobl yn ymweld â'r copa bob blwyddyn mae'r meysydd parcio'n gallu bod yn llawn mor fuan a 7 o'r gloch y bore! Mae'r llwybrau llawer distawach yn ystod yr wythnos ac yn gyfle gwych i gerdded gan bod penwythnosau a gwyliau ysgol yn brysur iawn. Mae'r cyfnod o ddiwedd Medi hyd at ddechrau Hydref yn amser gwych i gerdded mynydddoedd Eryri.

Gellir gweld amserlen llawn y gwasanaeth ar wefan Sherpa'r Wyddfa.

Bws Arfordir Llŷn Fflecsi (Gwasanaeth yn dechrau 1 Ebrill, 2023)

Mae fflecsi Llŷn yn gweithredu dydd Gwener, dydd Sadwrn, dydd Sul a dydd Llun. Mae’r gwasanaeth yn cynnig ffordd fwy hyblyg o fynd o’ch blaen drwy eich casglu a’ch gollwng yn yr ardal ddiffiniedig, gan eich galluogi i gyrraedd ac o draethau, gwersylloedd, mannau twristaidd a gwneud teithiau lleol eraill.

Mae fflecsi wedi’i gynllunio i ddarparu mwy o symudedd mewn ardaloedd gwledig a helpu pobl i wneud teithiau lleol mewn amgylchedd diogel a hyblyg a reolir.

Bws Ogwen 

Gwasanaeth bws trydan dyddiol yn rhedeg o Fethesda i Lyn Ogwen (oni bai am ddyddiau Mercher). Rhagor o fanylion ar dudalen Facebook.

Tocyn 1Bws ar Gyfer Gwasanaethau yn y Gogledd

Pan fydd teithwyr wedi prynu eu tocyn 1Bws gan y gyrrwr ar gyfer taith gyntaf y diwrnod, bydd y tocyn wedyn yn ddilys iddynt deithio ar bob bws arall y byddant am ei ddefnyddio’r diwrnod hwnnw ar draws y gogledd (gweler amodau).

Archwilio Cymru

Mae'r cliw yn y teitl - un tocyn sy'n rhoi mynediad diderfyn i chi i holl brif linellau trên Cymru a bron bob gwasanaeth bws.

Ticed Crwydro

Mae tocynnau 'North Wales Rover' yn caniatáu teithio am un diwrnod ar fysiau a threnau. 

Traveline.cymru

Nod Traveline Cymru yw rhoi cymaint o wybodaeth â phosib i chi i'ch helpu i wneud eich siwrnai unrhyw bryd, unrhyw ffordd i unrhyw le. 0800 464 00 00.

Ffordd Cymru 

Teulu o dri llwybr cenedlaethol newydd yw Ffordd Cymru, sydd yn eich arwain drwy ganol calon Cymru. Mae Ffordd yr Arfordir yn dilyn glannau’r gorllewin o gwmpas Bae Ceredigion, taith 180 milltir (290km) o hyd rhwng y môr a’r mynydd. Mae Ffordd Cambria yn dilyn asgwrn cefn Cymru am 185 milltir (300km) rhwng Llandudno a Chaerdydd, drwy eangderau gwyllt a dau Barc Cenedlaethol. Mae Ffordd Gogledd Cymru yn 75 milltir (120km) o hyd, ac yn mynd heibio i nifer o gestyll cadarn cyn croesi drosodd i Ynys Môn.